Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd
Beth mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd yn gynnwys:
Mae Llwybrau Dysgu yn golygu y bydd gan yr holl ddysgwyr hawl i dderbyn gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd arbenigol a diduedd. Bydd hyn yn cael ei ddarparu gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd arbenigol. Bydd yn cael ei ddosbarthu drwy gwmnïoedd Gyrfa Cymru ledled Cymru a Gyrfa Cymru Ar-lein. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn yr ysgol a’r coleg yn derbyn addysg ac arweiniad gyrfaoedd yn eu man dysgu.
Cyngor gyrfaoedd arbenigol
Mae gan Ymgynghorwyr Gyrfa Cymru gyfrifoldeb i ddarparu dysgwyr gyda chyngor arbenigol ar ystod eang o opsiynau gyrfaoedd a dysgu; i weithio gyda phobl ifanc i ddarparu cyngor ac arweiniad ar ddewisiadau gyrfa.
Gweithio gyda Anogwyr Dysgu
Bydd Ymgynghorwyr Dysgu angen gweithio’n agos gyda Anogwyr Dysgu i sicrhau fod dysgwyr yn manteisio o sgiliau arbenigol, gwybodaeth a phrofiad penodol pob un o’r bobl broffesiynol sydd yn cymryd rhan. Bydd yn bwysig i’r Ymgynghorwyr Gyrfaoedd fedru tywys pobl ifanc tuag at y gefnogaeth berthnasol ble fo angen.
Gyrfa Cymru Ar-lein
Gall dysgwyr gael mynediad i amrediad eang o wybodaeth ar-lein, ynghyd ag opsiwn ar gyfer eu gwe-ofod eu hun i gynnwys CV a gwybodaeth arall.
Yn ogystal, bydd Gyrfa Cymru:
Yn sefydlu, datblygu ymhellach a chynnal perthnasau gwaith agos rhwng Ymgynghorwyr Gyrfaoedd a’r Anogwr Dysgu a darparwyr cefnogaeth bersonol i sicrhau fod y dysgwr unigol yn cael y fantais orau;
Yn gweithio’n agos gyda’r Anogwr Dysgu dynodedig i sicrhau dealltwriaeth am Lwybrau Dysgu unigol, dulliau dysgu a galluoedd a diddordebau’r person ifanc unigol;
Yn gallu cyfeirio person ifanc, gyda’i ganiatâd ef/chaniatâd hi, i gael cefnogaeth bersonol;
Yn gallu cymryd i ystyriaeth anghenion siaradwyr dwyieithog ag anghenion cyflogaeth cymunedau dwyieithog.
