Alien 8Alien 7

Cefnogaeth Anogwr Dysgu.

Beth yw Cefnogaeth Anogwr Dysgu?

Rôl yr Anogwr Dysgu yw rhoi’r cyfle gorau i chi, y Dysgwr, ym myd addysg.

Er mwyn gwneud hyn, bydd Anogwr Dysgu yn eich helpu chi i ddarganfod at beth ddylech chi anelu a beth sydd raid i chi wneud i gyrraedd hyn.

Efallai nad un person yn unig yw Anogwr Dysgu, ond tîm o arbenigwyr sy’n gallu eich helpu chi mewn ffyrdd gwahanol.  Mae sawl math gwahanol o bobl yn mynd i fod yn Anogwr Dysgu.

Sut fydd yr Anogwr Dysgu yn eich cefnogi chi?

Byddan nhw’n eich helpu chi i ddod o hyd i wybodaeth ac os ydych chi angen cael eich cyfeirio ar gyfer cefnogaeth bellach, dylen nhw drefnu hyn.  Dylai’r gefnogaeth fod ar gael os a phan rydych chi ei angen a bydd yn gweithio ochr yn ochr â’r bobl sy’n eich helpu chi ar hyn o bryd.

Dylai gwybodaeth ar sut i gael gafael ar y cymorth yma fod ar gael yn eich ysgol, coleg, gan eich ymgynghorydd gyrfaoedd ayb

Hafan | Clod | Ymwadiad | Cysylltwch â Ni

designed by Netring Media and Technology