

Cefnogaeth Hyfforddwr Dysgu.
Beth yw Cefnogaeth Hyfforddwr Dysgu?
Rôl yr Hyfforddwr Dysgu yw rhoir cyfle gorau i chi, y Dysgwr, ym myd addysg.
Er mwyn gwneud hyn, bydd Hyfforddwr Dysgu yn eich helpu chi i ddarganfod at beth ddylech chi anelu a beth sydd raid i chi wneud i gyrraedd hyn.
Efallai nad un person yn unig yw Hyfforddwr Dysgu, ond tîm o arbenigwyr syn gallu eich helpu chi mewn ffyrdd gwahanol. Mae sawl math gwahanol o bobl yn mynd i fod yn Hyfforddwyr Dysgu.
Sut fydd yr Hyfforddwr Dysgu yn eich cefnogi chi?
Byddan nhwn eich helpu chi i ddod o hyd i wybodaeth ac os ydych chi angen cael eich cyfeirio ar gyfer cefnogaeth bellach, dylen nhw drefnu hyn. Dylair gefnogaeth fod ar gael os a phan rydych chi ei angen a bydd yn gweithio ochr yn ochr âr bobl syn eich helpu chi ar hyn o bryd.
Dylai gwybodaeth ar sut i gael gafael ar y cymorth yma fod ar gael yn eich ysgol, coleg, gan eich ymgynghorydd gyrfaoedd ayb