Gweithgareddau Heb fod yn ffurfiol.

Tir Coed "The Tree Wise Initiative"

Mae Tree wise i bobl ifainc 14-16 oed nad ydynt yn mynychu ysgol brif ffrwd.

Tir Coed

Cyfle hyfforddiant yn y gweithle yw Working your woods i bobl ifainc 16-19 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Music Wales Complete Control Music

Mae Complete Control Music i bobl ifainc 14-19 oed sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth, fe gewch eich paru gyda mentor sydd wedi gweithio’n broffesiynol yn y diwydiant cerddoriaeth ac a wnaiff eich cefnogi chi drwy’r rhaglen.

SNAP – Rhaglen Barch

Mae’r Rhaglen Barch wedi’i hanelu at bobl ifainc 14-19 oed, bydd y rhaglen yn hyfforddi pobl ifainc ar sut i barchu teimladau ei gilydd a chynnwys anableddau ym mhopeth a wnewch. Gellwch ddysgu hefyd sut i fynd yn addysgwr cymheiriaid a rhoi’r rhaglen hon eich hunain.

Datblygu Fforwm Ieuenctid - RhCA Lefel 1

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn mynd yn aelodau o fforwm neu bwyllgor ieuenctid. Gallant ennill dealltwriaeth o’r angen am gyfathrebu effeithiol, gwaith tîm a chydweithio o fewn adeiladwaith fforwm/pwyllgor.

Troellwr - RhCA Lefel 1

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn sgiliau troellwr a chymysgu. Fe gaiff y sawl sy’n cymryd rhan ddealltwriaeth o’r offer, sut i gymysgu record/cryno ddisg yn llwyddiannus a’r cyfreithiau sy’n ymwneud â rhoi perfformiad ymlaen.

Cwrs Blas ar Ffotograffiaeth

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth. Byddant yn dysgu egwyddorion sylfaenol am gamerâu ac yn cynhyrchu portffolio syml o waith.

Cyflwyniad i Sgiliau Crefft Gwersylla

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn dysgu am sgiliau crefft gwersylla megis gosod pabell, coginio pryd bwyd yn yr awyr agored a defnyddio sach gefn yn gywir. Gall y cwrs RhCA hwn fod yn ddefnyddiol iawn os ydych yn meddwl am wneud Gwobr Dug Caeredin neu os dim ond diddordeb mewn gwersylla sydd gennych chi.

Cyflwyniad i Grochenwaith

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn dysgu am grochenwaith. Byddant yn dysgu adnabod gwahanol ddefnyddiau ac arfau a ddefnyddir yn y gweithdy a sut i’w defnyddio’n saff.

Technegau Stensilio

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn dysgu am dechnegau stensilio, sut i benderfynu ar batrwm priodol y gellir ei ddefnyddio, sut i dorri allan y stensil a sut i ddefnyddio’r stensil ar arwynebedd priodol.

Cwrs Blas ar Weithgareddau Awyr Agored

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn gwneud cwrs blas ar weithgareddau awyr agored. Fe wnaiff roi cyfle i’r person ifanc roi cynnig ar wahanol weithgareddau.

Cynllunio Digwyddiad

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn cynllunio digwyddiad.

Cynllunio Gwefan

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn dysgu am gynllunio gwefannau. Mae’n cynnwys egwyddorion sylfaenol cynllunio gwefannau megis beth sy’n gwneud gwefan dda, sut i gynllunio gwefan, sut i fformatio tudalennau gwe a sut i greu gwefan syml.

Dinasyddiaeth

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn dysgu am ddinasyddiaeth, beth mae’n ei olygu fel unigolyn ac ennill dealltwriaeth o bwysigrwydd bod yn ddinesydd gweithredol.

Cymorth Cyntaf

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn ennill gwybodaeth o gymorth cyntaf sylfaenol gan gynnwys dadebriad a chyweirio briwiau ac asesu’r angen i alw’r gwasanaethau brys.

Hyfforddiant Aelodau Hŷn

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn ennill gwybodaeth am fynd yn aelod gweithgar o’u clwb ieuenctid. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i gynnig y sgiliau i’r person ifanc a wnaiff ei (g)alluogi i fynd yn arweinydd iau a helpu i redeg y clwb neu’r prosiect ieuenctid yn gyffredinol.

Sgiliau Gwarchod Plant

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn gwarchod plant ac ennill gwybodaeth am ofalu am fabanod a phlant ifainc. Bydd y cwrs hwn hefyd yn cynnwys tystysgrif cymorth cyntaf gan y Groes Goch ar gyfer babanod a phlant bach.

Defnyddio’r Rhyngrwyd

Mae’r cwrs RhCA hwn wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifainc sydd â diddordeb mewn dysgu am ddefnyddio’r rhyngrwyd.

Gwobr Dug Caeredin

Drwy ymgymryd â’r wobr, boed ar y lefel Efydd, Arian neu Aur, caiff y person ifanc 14 – 25 oed y cyfle i helpu pobl neu’r gymuned, mynd yn fwy heini, datblygu sgiliau, mynd ar daith a chymryd rhan mewn gweithgaredd preswyl (Aur yn unig).

Tystysgrif mewn Datblygu Ymwybyddiaeth a Chyfathrebu â Phobl sy’n Fyddar a Phobl sy’n Fyddar ac yn Ddall

Dyfernir y cwrs gan Signature ac y mae wedi’i gynllunio i roi i ddysgwyr gyflwyniad i’r holl ystod o bobl F/fyddar a dall a byddar a gwybodaeth sylfaenol amdanynt.

Ymddiriedolaeth y Tywysog : Rhaglen Dîm

Cwrs datblygiad personol yw’r rhaglen Dîm sy’n parhau 12 wythnos ac sydd wedi’i anelu at bobl ifainc 16 - 25 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Gweithredu Egwyddorion Gwaith Chwarae

Cwrs 5 niwrnod ar sut i weithio gyda phlant a phobl ifainc mewn amgylchedd chwarae, tu allan yn bennaf a chyda gweithgareddau sy’n cynnig llwyth o risg a her.

Tystysgrif Lefel 1 mewn Arwain Chwaraeon (SL)

Mae’r Dystysgrif Lefel 1 mewn Arwain Chwaraeon yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i arwain grwpiau bach mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden syml tra bônt o dan oruchwyliaeth uniongyrchol eu tiwtor.

EVS (Gwasanaeth Gwirfoddol Ewropeaidd)

Mae EVS i oedolion ifainc 18-30 oed sy’n fodlon rhoi 6-12 mis i wirfoddoli llawn amser mewn gwlad arall yn yr UE.

Area 43

Elusen Gofrestredig yw Ardal 43. Sefydlwyd i ddarparu cynefin i bob ifanc (16-25oed) sy’n ddiogel, anffurfiol, gofalus, anwahaniaethol ac anfeirniadol lle gallant gymdeithasu gyda’u cyfoedion a chael mynediad i nifer o fathau gwahanol o gymorth, gwybodaeth, hyfforddiant achrededig ac addysg anffurfiol.

Ffermwyr Ifainc Ceredigion

Hafan | Clod | Ymwadiad | Cysylltwch â Ni

designed by Netring Media and Technology