Peirianneg
![]()
Mae cwrs galwedigaethol Skillstart sy'n cynnig hyfforddiant mewn peirianneg yn gwrs ymarferol ei natur. Bydd yn cael ei gynnig fel opsiwn yn rhan o'r cwricwlwm ar ôl ysgol am 2 ½ awr un noson yr wythnos, ganol yr wythnos, yn ystod y flwyddyn ysgol. Bydd angen ymrwymiad pendant gan yr ychydig ddisgyblion a fydd yn dewis dilyn y cwrs hwn.
Drwy greu cyfres o brosiectau a fydd wedi'u cynllunio'n ofalus, gall ymgeiswyr gael Cymhwyster Galwedigaethol (NVQ) lefel 1 (sy'n gyfatebol i 5 TGAU hyd at radd D) neu lefel 2 (5 TGAU gradd C ac uwch).
Gall yr hyfforddiant gynnwys ffitiadau mainc (bench fitting), gwaith llenfetel (sheet metalwork), gosod cyfarpar trydanol (electrical insulation), cydosod gwaith peirianyddol (engineering assembly), weldo a thorri.
Mae'r cymwysterau a'r profiadau hyn yn cael eu cydnabod gan ddiwydiant, maent yn gam cychwyn i gael gwaith a gyrfa mewn nifer o feysydd technolegol a allai gynnwys Gwaith Trydanol / Mecanyddol, Adeiladu, Peirianneg y Mor, Peirianneg Amaethyddol a Pheirianneg Cerbydau Modur yn ogystal â'r diwydiant Meddygol.
Gan ddibynnu ar y pynciau a ddewisir, bydd y dysgwr yn datblygu sgiliau arbenigol mewn o leiaf dau o'r opsiynau canlynol:
Ffitio: Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer llaw a marcio allan offer er mwyn cynhyrchu cydrannau i oddefiannau (tolerances) manwl.
Weldio: Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio cyfuniad o MIG, Arc Metel Llaw, TIG a thechnegau weldio ocsi/nwy (oxy/gas). Bydd hyn yn eich galluogi chi i weldio gwahanol siapau a deunyddiau o wahanol drwch mewn nifer o wahanol safleoedd.
Gwaith llenfetel: Byddwch yn dysgu'r sgiliau angenrheidiol i greu siapau syml a chymleth mewn llenfetel tenau.
Turnio: (Hyd at Lefel 1). Yn ogystal â defnyddio cyfarparu mesur trachywir, byddwch yn gwneud nifer o brosiectau a fydd wedi'u cynllunio i'ch galluogi chi i wella'ch sgiliau i ymdopi â'r rhan fwyaf o broblemau turnio.
Gwefru cylchedau trydanol: Byddwch yn datblygu sgiliau angenrheidiol i wefru cylchedau trydanol syml e.e. cylchedau golau, p?er a rheoli sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau priodol.
Torri ac ocsi-nwy: Torri trychiadau (sections) dur ysgafn â gwres â llaw. Cewch gyfle i weithio ar brosiectau a fydd yn eich galluogi chi i dorri siapau mewnol ac allanol yn gywir.
Cydosod Cydrannau Mecanyddol: (Hyd at Lefel 1). Byddwch yn dysgu i roi cydrannau yn y lle cywir a diogel gan ddefnyddio nifer o ddyfeisiadau, offer a thechnegau clymu mecanyddol. Byddwch yn dysgu i wneud archwiliadau gweledol a gweithredol er mwyn cadarnhau bod y gwaith cydosod gorffenedig yn bodloni'r safon ofynnol.