Cynllwynio eich dyfodol gyda
![]()
Sgiliau hyfforddi mewn Peirianneg
ar gyfer:
- Gosod Trydan
- Electroneg
- Cynhyrchu Peirianneg
- Trwsio a Chynnal Peirianneg
- Weldio ac Adeiladu
Hyfforddi hyd at Safonau Cenedlaethol
Pecynnau pwrpasol sydd wedi eu darparu i fod yn addas ar gyfer gofynion cwsmer unigol.
EAL COMPANY LOGO
Mae "Skillstart Cyf." yn cynnig gwasanaeth hyfforddi symudol.
Yn dilyn trafodaethau yngl?n âch gofynion unigol, bydd Skillstart yn trefnu dosbarthu pecyn hyfforddi a fydd yn cynnwys, nid yn unig yr holl ddeunyddiau dysgu, ond hefyd yr holl ofynion ymarferol (Teclynnau & offer) yr holl PPE (Offer Amddiffyn) yr holl nwyddau llosgadwy (e.e. metel, rhodau weldio ayb) yn wir, popeth i alluogir dysgwr i ennill y cymhwyster ar eich safle chi.
Mae Skillstart Cyf. yn balch i fod yn galluog i cyfathrebu yn y Cymraeg a Saesneg t fewn ei pacedu hyfforddiant. (y frawddeg hon ar y ddogfen Saesneg yn barod)
Manteision y Cymwysterau:
Gall y cymhwyster ddarparur canlynol ir cyflogwr:
- Cymorth gyda recriwtio a chadwr gweithiwr
- Cynyddu morâl a chymhelliant y gweithiwr
- Cynyddu cynhyrchiant a lleihau ail wneud gwaith
- Dangos ansawdd y gweithlu i gwsmeriaid presennol a phosibl.
Ir gweithiwr, maer cymhwyster:
- Yn dangos tystiolaeth or gallu i wneud swydd arbennig
- Yn helpu i wella datblygiad gyrfa/cyfleoedd ar gyfer dyrchafiad
- Yn rhoi teimlad o gyflawniad
- Yn cael ei ennill yn y swydd
- Yn cael ei gwblhau ar adeg a chyfnod addas
- Mae ein holl becynnau hyfforddi yn galluogir dysgwr i gyflawnir canlynol:
- Darllen a dehongli lluniau
- Deall a defnyddio teclynnau manwl cywir
- Gweithion ddiogel
Ennill y sgiliau ar cymwysterau cywir ar gyfer y canlynol:
- Peirianneg Electroneg
- Gosod Trydan mewn adeiladau domestig, masnachol a diwydiannol
- Systemau Trydanol Modur
- Systemau rheoli
- Gwasanaethu teclynnau domestig (I gyd yn unol â rheolau presennol)
- Peirianneg Electroneg
- Teledu, Radio a Nwyddau Electroneg
- Systemau Electroneg Ddiwylliannol
- Cyfathrebiadau
- Caledwedd Cyfrifiadur & system berifferol
- Adeiladu a Chynnal Mecaneg
- Gweithredu profion gweledol a gweithredol ar gyfansoddiadau mecaneg.
- Darganfod gwendidau ar fecanweithiau,
- Cynhyrchu rhannau gan ddefnyddio sgiliau llaw
- Trwsio ac ailosod rhannau o fecanweithiau
Maer sgiliau i gyd yn cael eu defnyddio ar gyfer:
- Trwsio a chynnal peiriannau amaethyddol
- Trwsio a chynnal offer domestig
- Trwsio a chynnal Cerbydau Modur
- Cynhyrchu rhannau unigol
- Adeiladu a chynnal mecanweithiau cymhleth
- Weldio ac adeiladu
Gellir defnyddio amryw o Dechnegau Weldio yn cynnwys:
- Nwy Olew Ocsid
- Bwa Metel Perthynol ir Llaw
- Nwy Anadweithiol Metel
- Nwy Anadweithiol Twngsten
- ar amryw o ddeunyddiau yn cynnwys Dur Meddal, Alwminiwm a Dur Gloyw
Bydd sgiliau adeiladu yn cynnwys:
Troi, siapio a saernïo deunyddiau gan ddefnyddio amryw o declynnau, peiriannau ac offer yn cynnwys nwy olew ocsid.
Bydd y sgiliau i gyd yn cael eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu a thrwsio eitemau fel
Gwaith haearn wedi ei addurno Cyrff moduron Peiriannau amaethyddol- Safle a chyfarpar diwydiannol
Mae "Skillstart Cyf." wedi ei awdurdodi (drwy EMTA Awards Limited) i ddarparu, dylunio a dosbarthu hyfforddiant o ansawdd a fydd yn arwain at gyflawni Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Mae ein cwsmeriaid yn cynnwys ysgolion a sefydliadau addysgol eraill sydd yn cymryd mantais o gywerth NVQ lefel 1 i 5 gradd TGAU D-G a NVQ lefel 2 i 5 TGAU gradd A-C.
Pecynnau Hyfforddi sydd ar Gael
Pecynnau "Cyflwyniad i Beirianneg" mewn ysgolion i ysgogi pobl ifanc tuag at astudio peirianneg, fel eu bod, mewn amser, yn gallu gwneud penderfyniad cytbwys yngl?n âu gyrfa ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn gallu cynnig pecyn NVQ Lefel 3 ac (os oes angen) Prif Sgiliau, ar gyfer y cwsmeriaid hynny sydd yn gweithio fel rhan o Brentisiaethau Modern, neu fel arall, rydym yn gallu cynnig pecyn NVQ lefel 2, Prif Sgiliau a Chymhwyster Galwedigaethol Perthnasol ar gyfer y Prentisiaethau Modern Sylfaenol.
Mae hyfforddiant pwrpasol hefyd yn cael ei ddarparu i gwsmeriaid sydd eisiau cael eu hyfforddi ar gyfer tasg benodol a thechnegau sylfaenol, a gall hyn gael ei ymestyn ai ehangu i ennill cymhwyster.
Rydym hefyd yn darparu Gwasanaeth Peirianneg sydd wedi ei sefydlu ar yr uchod, ar gyfer y sgiliau hynny sydd yn anodd ei darganfod!
Am fanylion pellach, ymwelwch ân gwefan yn:
http://www.skillstart.com
E-bost: enquiries@skillstart.com
Neu ffoniwch (01239) 881681 / 831595
Sgiliau Allweddol.
Mae hyfforddwyr Skillstart Ltd wedi bod yn gysylltiedig â throsglwyddo cynwysterau sgiliau Allweddol ers nifer o flynyddoedd (fel Hyfforddwyr Prentisiaeth/ Hyfforddiant Cenedlaethol yn QinetiQ Aberporth, ag yn ystod y tair mlynedd ddiwethaf fel Cyfarwyddwyr Skillstart Ltd).
Mae`r hyfforddiant galwedigaethol a ddarperir ganddynt yn ddefryddiol iawn ar gyfer cymwysterau Sgiliau Allweddol. Ein bwrdd gwobrwyo yw EAL (EMTA Awards Ltd).
Cydweithio ag eraill.
Tra`n hyfforddi gyda Skillstart mae`r ymgeisydd yn cael cyfle naturiol i gasglu tystiolaeth ar gyfer Cydweithio ag Eraill - (rhan hanfodol o awyrgylch dysgu o fewn y gweithle).
Bydd yr ymgeisydd yn arddangos y gallu i weithio`n effeithiol yn Unigol a fel Rhan o dîm.
Darperi tystiolaeth drwy gyfrwng adroddiadau prosiect, sydd nid yn unig yn manylu ar y gwaith a wnaed, ond ar y trafodaethau a`r cymorth a gynnigiwyd ac a dderbyniwyd yn ystod y prosiect.
Cwblheir Sylwadau Hyfforddwr hefyd.
Datrys Problemau.
Mae hyn yn cael ei arddangos dro ar ôl tro tra`n cynhyrchu`r prosiectau penodol.
Mae manylion sylfaenol y broblem, sut gafodd hi ei datrys a phwy roddodd cymorth yn cael eu recordio ar daflen arbennig.
Gwella dysgu personol.
Mae`r cwricwlwm CGC (Cymwysterau Golwedigaethol Cenedlaethol) mae Skillstart wedi ei datblygu yn arwain yr ymgeisydd drwy`r tasgau a`r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer ennill cymhwyster CGC. Mae`r ymgeisydd yn dechrau gyda phrosiectiau eitha syml, sy`n gofyn am ddealltwriaeth sylfaenol o wahanol agweddau technegol.
Wedyn, mae`n nhw`n derbyn tasgau mwy ymestynnol sy`n arddangos eu gallu i Wella dysgu personol pan mae`n ofynnol iddynt i defnyddio`r sgiliau ddysgon nhw ar y prosiect syml i gynhyrchu prosiect sy`n fwy anodd.
Mae dangos priodolder y gwelliant drwy gyfrwng prosiectau a gwblhawyd yn llwyddiannus yn tystiolaethu hyn. Mae`r ymgeisydd hefyd yn gysylltiedig â chynllinio`r camau nesaf tuag at gyraedd eu cymhwyster. Maen asesiad o`u cynnydd ac yn cytuno ar gynlluniau ar gyfer datblygiad pellach.
Cyfathrebu.
Yn ystod eu hamser gyda Skillstart bydd yn ofynnol i`r ymgeiswyr ddarllen ac ymateb i ddogfennau sylweddol sy`n cynnwys testun, delweddau a data rhifyddol. Lle na arddangosir hyn yn naturiol, rydyn ni wedi datblygu tasgau perthnasol i ateb y gofynion.
Mae`n ofynnol i bob ymgeisydd i gynhyrchu dogfennau sylfaenol am eu gwaith. Rydyn ni hefyd wedi datblygu pecynnau addas ar gyfer cynhyrchu dogfennau sylweddol, yn ystod â chyflwyniadau sy`n berthnasol i`r gwaith.
Gan fod y rhan fwyaf o`r tasgau yn ymwneud â sgiliau Cyfathrebu, mae`r dystiolaeth yn digwydd yn naturiol, ac yn ateb gofynion y cymhwyster.
Technoleg Gwybodaeth a Chymhwyso Rhif.
Yn ogystal a`r ddau ychod, mae Skillstart hefyd yn darparu ar gyfer Technoleg Gwydodaeth a Chymhwysor Rhif .Mae`r gwaith yn berthnasol i`r swydd ac yn cynnwys astudiaeth o bynciau iechyd a diogelwch.
Mae`r dystiolaeth Cymhwyso Rhif yn rhan o`r astudiaeth ac yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng cyfleusterau a chyfarpar Technoleg Gwybodaeth. Defnyddir canlyniadau`r astudiaeth fel rhan o`r portfolio Cyfathrebu pan fo`n cael ei gyflwyno nôl i`r grwp.
Trosglwyddiad.
Gellid trosglwyddo / tystiolaethu y cymwysterau sgiliau allweddol fel mwyhad i`r trefniadau hyfforddi presennol i`r ymgeiswyr sy`n mynychu Peirianneg fel pwnc.
Yn ychwanegol:
Gellid ei gynnig hefyd i ymgeiswyr sy ddim yn gwneud peirianneg drwy gyfrwng sesiynnau Profiad gwaith ar yr amserlen.
Beth bynnag yw eich anghenion, byddwn yn hapus i drafod, a gobeithio, gyfrannu at ddatrysiad a fyddai`n fanteisiol i bawb.
Rob Morgan
Skillstart Ltd.
01239 881681
rob@skillstart.com
