Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd
Beth mae gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd yn gynnwys:
Mae Llwybrau Dysgu yn golygu y bydd gan yr holl ddysgwyr hawl i dderbyn gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd arbenigol a diduedd. Bydd hyn yn cael ei ddarparu gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd arbenigol. Bydd yn cael ei ddosbarthu drwy gwmnïoedd Gyrfa Cymru ledled Cymru a Gyrfa Cymru Ar-lein. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn yr ysgol ar coleg yn derbyn addysg ac arweiniad gyrfaoedd yn eu man dysgu.
Cyngor gyrfaoedd arbenigol
1. Mae gan Ymgynghorwyr Gyrfa Cymru gyfrifoldeb i ddarparu dysgwyr gyda chyngor arbenigol ar ystod eang o opsiynau gyrfaoedd a dysgu; i weithio gyda phobl ifanc i ddarparu cyngor ac arweiniad ar ddewisiadau gyrfa.
Gweithio gyda Hyfforddwyr Dysgu
2. Bydd Ymgynghorwyr Dysgu angen gweithion agos gyda Hyfforddwyr Dysgu i sicrhau fod dysgwyr yn manteisio o sgiliau arbenigol, gwybodaeth a phrofiad penodol pob un or bobl broffesiynol sydd yn cymryd rhan. Bydd yn bwysig ir Ymgynghorwyr Gyrfaoedd fedru tywys pobl ifanc tuag at y gefnogaeth berthnasol ble fo angen.
Gyrfa Cymru Ar-lein
3. O fis Medi 2004, bydd dysgwyr yn gallu cael ystod eang o wybodaeth ar-lein, ynghyd âr opsiwn o gael eu gwagle-gwe eu hunain ble gallan nhw gynnwys eu CV a gwybodaeth eraill. Bydd Ffeil Ddatblygu hefyd ar gael ar-lein.
4. Yn ogystal, bydd Gyrfa Cymru:
Yn sefydlu, datblygu ymhellach a chynnal perthnasau gwaith agos rhwng Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ar Hyfforddwr Dysgu a darparwyr cefnogaeth bersonol i sicrhau fod y dysgwr unigol yn cael y fantais orau;
Yn gweithion agos gydar Hyfforddwr Dysgu dynodedig i sicrhau dealltwriaeth am Lwybrau Dysgu unigol, dulliau dysgu a galluoedd a diddordebaur person ifanc unigol;
Yn gallu cyfeirio person ifanc, gydai ganiatâd ef/chaniatâd hi, i gael cefnogaeth bersonol;
Yn gallu cymryd i ystyriaeth anghenion siaradwyr dwyieithog ag anghenion cyflogaeth cymunedau dwyieithog;
Yn darparu addysg gyrfaoedd mewn ysgolion a cholegau;
5. Mae addysg ac arweiniad gyrfaoedd yn elfen statudol orfodol or cwricwlwm o 13-19 mlwydd oed.
