alien10

Mynediad i Gefnogaeth Bersonol

Beth yw cefnogaeth bersonol?

Cefnogaeth bersonol yw’r cymorth y gallai dysgwr 14-19 mlwydd oed gael i’w cynorthwyo nhw i gyrraedd eu potensial fel dysgwr yn ogystal â fel person.

Mae gan bawb yr hawl i gefnogaeth bersonol ond nid pawb fydd angen pob agwedd o’r gwasanaeth.  Gall fod mor syml â rhywun yn gwrando arnoch yn siarad am broblem neu’n eich cwnsela chi ar sail un i un.  Mae’n bwysig iawn eich bod yn siarad â’ch Anogwr Dysgu.

Sut y darperir cefnogaeth bersonol?

Mae gan ysgolion, colegau a Anogwyr dysgu restr o gefnogwyr personol.

Bydd y gwasanaeth yn gyfrinachol, oni bai am faterion Amddiffyn Plant a diogelwch.

Darperir lefelau gwahanol o gefnogaeth, yn ddibynnol ar beth sydd angen.

Drwy roi gwybodaeth i chi, dylech chi fedru darganfod y gefnogaeth bersonol gywir.  Yn ogystal, gallai rhywun yn yr ysgol/coleg, Hyfforddwr Dysgu neu weithiwr arall eich helpu chi i ddarganfod y wybodaeth.

Darperir cefnogaeth bersonol gan amrywiaeth o ffynonellau.

 

Hafan | Clod | Ymwadiad | Cysylltwch â Ni

designed by Netring Media and Technology